Bugail yw fe roes ei waed

(Y Bugail da)
Bugail yw, fe roes ei waed
  Dros ei ddefaid;
Ac fe'n prynodd ni yn rhad
  O'n caethiwed;
Dygodd ni i brofi blas
  Dwyfol fanna;
Bellach canwn am ei ras,
  Haleluwia.

Nid oes terfyn byth i'w gael
  Ar ei gariad;
Mae'i drysorau mawrion, hael,
  Uwch eu dirnad;
Ynddo ei hunan mae yn llwyr
  Oll ddymunaf;
Minnau ganaf foreu a hwyr,
  Haleluwia.
William Williams 1717-91

Tonau [7474D]:
Aberafon (John Roberts 1822-77)
Haverland (Myles B Forster 1851-1922)
Llanfair (Robert Williams 1782-1818)
San Remo (F A J Hervey 1846-1910)

gwelir:
  Ar Galfaria un prydnawn
  Caned nef a daear lawr
  Dyma'r Aberth mae erioed
  Mi a gredaf yn fy Nuw
  Ni chaiff fyth o'i ddefaid rhi
  Teithio'r wyf fynyddau maith

(The good Shepherd)
A Shepherd he is, he gave his blood
  For his sheep;
And he redeemed us freely
  From our captivity;
He brought us to experience a taste
  Of divine manna;
Henceforth let us sing about his grace,
  Hallelujah.

There is no end ever to be got
  On his love;
It's great, generous treasures are
  Above their grasping;
In him himself is the totality
  Of all I desire;
I shall sing morning and evening,
  Hallelujah.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~